Walking along the Monmouthshire & Brecon Canal
The canal is one of the most beautiful in the country and attacts walkers from far afield.
The northern section of the towpath forms part of the Taff Trail Long Distance Footpath, linking Cardiff and the Valleys to Brecon over a 55-mile path. This walking and cycling route follows disused railways, country lanes and canal towpaths - including the Mon & Brec and the long-lost Glamorganshire Canal.
Other sections run alongside reservoirs and through river valleys. The Trail starts at Cardiff, then heads inland to Pontypridd, Talybont-on-Usk - where it meets the canal - Brecon and Cefn Coed. You can find more information at the unofficial site www.tafftrail.org.uk.
Cerdded ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Hon yw un o gamlesi prydferthaf y wlad ac mae’n denu cerddwyr o bob cwr.
Mae rhan ogleddol y llwybr yn ffurfio rhan o Lwybr y Taf, sef llwybr 55 milltir sy’n cysylltu Caerdydd a’r Cymoedd ag Aberhonddu. Mae’r llwybr cerdded a beicio hwn yn dilyn hen reilffyrdd, lonydd gwledig a llwybrau tynnu ar hyd ochrau camlesi – yn cynnwys Camlas Mynwy ac Aberhonddu a hen Gamlas Sir Forgannwg.
Mae rhannau eraill yn mynd ar hyd ochrau cronfeydd d?r a thrwy ddyffrynnoedd afonydd. Mae’r Llwybr yn dechrau yng Nghaerdydd, ac yn mynd ymlaen i Bontypridd, Tal-y-bont ar Wysg - lle mae’n cwrdd â’r gamlas - Aberhonddu a Chefn Coed.
