Britain's official guide to canals, rivers and lakes

Tuesday 14th October 2008

Holiday ideas

Why not travel the length of the county’s main waterway from Hay on Wye to Symonds Yat; whether you prefer to canoe, cycle or walk, the Wye is guaranteed to satisfy at any time of year. In the height of summer or in winter’s snow the area’s beauty remains undiminished.

Start at the famous book town of Hay on Wye, collecting a few bargains, before heading to Glasbury on Wye, picking up a canoe and exploring this stretch of the river from water level. Paddle to Hay, then continue downstream to Whitney on Wye and stop off at the aptly named Boat Inn. Nearby accommodation is plentiful unless you prefer to camp under the stars at the Boat’s designated campsite. Wye Valley Canoes will also collect their canoe, enabling you to continue your journey downstream on dry land if you desire.

Passing country estates, and woodland gardens such as Brobury House and The Weir, the Wye eventually sweeps into Hereford. The Norman Cathedral houses the famous Mappa Mundi, the oldest map of the world of its kind. Spend a few hours exploring the historic city, then head to the Left Bank Village for lunch and enjoy its enviable riverside position and fine cuisine.

Views of the river can be enjoyed at many points along its path, from short trails at beauty spots such as Hoarwithy and Capler, or by walking the river’s long distance trail. Then, after the bustling town of Ross on Wye, the river enters the birthplace of British tourism, although it now hosts a centre for watersports, being perfect for canoeing, fishing and rafting. Take exhilarating exercise at Symonds Yat Canoe Centre or the multi-activity Wyedean Canoe & Adventure Centre, whilst younger visitors can enjoy the Amazing Hedge Puzzle and Wye Valley Butterfly Zoo. Alternatively, climb up to the Yat Rock and marvel at nature’s beauty; from this viewpoint, it is not hard to see why this area is as popular today as it was two hundred years ago.

Welsh Language Board

Syniadau ar gyfer gwyliau
Beth am deithio ar hyd prif ddyfrffordd y sir o’r Gelli Gandryll i Symonds Yat? Mae’r Afon Gwy yn cynnig profiadau pleserus i ganŵ-wyr, beicwyr neu gerddwyr bob adeg o’r flwyddyn. Yng nghanol yr haf neu yn ystod eira’r gaeaf mae harddwch yr ardal yn amlwg i bawb.

Dechreuwch drwy fachu ambell i fargen yn y Gelli Gandryll, tref sy’n enwog am ei siopau llyfrau, cyn anelu am y Clas ar Wy, gan logi canŵ i fwynhau’r darn hwn o’r afon o lefel y dŵr. Padlwch i’r Gelli Gandryll cyn parhau i lawr yr afon i Whitney on Wye gan stopio yn y dafarn gyda’r enw addas, y Boat Inn. Mae digon o lety ar gael yn y cyffiniau oni bai eich bod am wersylla o dan y sêr ym maes pebyll dynodedig y dafarn. Bydd cwmni Wye Valley Canoes yn dod i gasglu’ch canŵ hefyd, er mwyn i chi allu parhau â’ch taith i lawr yr afon ar dir sych os mai dyna yw’ch dymuniad.

Ar ôl pasio ystadau gwledig a gerddi coetiroedd fel Brobury House a’r Weir, mae’r Afon Gwy yn cyrraedd Henffordd. Mae’r eglwys gadeiriol Normanaidd yn gartref i’r Mappa Mundi enwog, y map hynaf o’i fath yn y byd. Treuliwch awr neu ddwy yn y ddinas hanesyddol hon cyn symud ymlaen i’r Left Bank Village am ginio blasus a chyfle i fwynhau ei safle godidog ar lan yr afon.

Mae’n bosibl mwynhau golygfeydd mewn sawl man ar hyd llwybr yr afon, wrth ddilyn teithiau cerdded byr mewn llecynnau hardd fel Hoarwithy a Capler, neu wrth gerdded ar hyd llwybr hir yr afon. Ar ôl pasio trwy dref brysur y Rhosan ar Wy, mae’r afon yn cyrraedd man geni twristiaeth Brydeinig, sydd bellach yn ganolfan ar gyfer chwaraeon dŵr fel canŵio, pysgota a rafftio. Mae yna gyfle i fwynhau ymarfer corff cyffrous yng Nghanolfan Ganŵio Symonds Yat neu Ganolfan Ganŵio ac Antur Wyedean, sy’n cynnig gweithgareddau amrywiol. Gall ymwelwyr ifanc fwynhau’r Amazing Hedge Puzzle a Sw Pili Pala Dyffryn Gwy. Fel arall, gallwch ddringo i Yat Rock a mwynhau harddwch byd natur. Wrth sefyll yn fan hyn mae’n hawdd gweld pam fod yr ardal hon mor boblogaidd heddiw ag oedd hi ddau gan mlynedd yn ôl.