Govilon
Govilon is a Mecca for walkers and cyclists in the heart of the Usk Valley.
Though small, the town achieves recognition on the tourist map by virtue of its picturesque location – straddling the Monmouthshire & Brecon Canal with one foot in the Blaenafon World Heritage site.
The National Cycle Route 46 makes its way through the town along an abandoned railway line. Cyclists going the distance find Govilon an attractive stop-off – with real ales waiting to be enjoyed in the canalside Bridgend Inn and numerous B&Bs available.
For families looking for a different adventure during the school holidays, Govilon could be just the ticket. The canal towpath provides wonderful walks for the family, adults can admire the view while children look out for wildlife. All the family will enjoy nodding to boaters as they cruise along the pretty Mon & Brec – just don’t forget your camera.

Gofilon
Cyrchfan boblogaidd i gerddwyr a beicwyr yng nghanol Dyffryn Wysg yw Gofilon.
Er yn fach, mae’r dref yn haeddu ei lle ar y map twristiaeth oherwydd ei lleoliad trawiadol. Mae Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn llifo trwyddi ac mae rhan ohoni o fewn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 46 yn pasio drwy’r dref ar hyd hen linell rheilffordd. Mae beicwyr sy’n teithio’n bell wrth eu bodd yn stopio yng Ngofilon gan fod yno nifer o lefydd gwely a brecwast, a chwrw go iawn yn y Bridgend Inn ger y gamlas.
Gall Gofilon fod yn lle delfrydol i deuluoedd sy’n chwilio am antur ychydig yn wahanol yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae llwybr y gamlas yn lle delfrydol i’r teulu cyfan fynd am dro a gall yr oedolion edmygu’r golygfeydd tra bod y plant yn chwilio am fywyd gwyllt. Bydd y teulu cyfan yn mwynhau cyfarch y cychwyr wrth iddynt deithio’n hamddenol ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu - ond peidiwch ag anghofio eich camera!
