Britain's official guide to canals, rivers and lakes

Sunday 7th September 2008

 

River Teifi

At a spot almost precisely in the geographical centre of Wales, the River Teifi is born against a backdrop of heather moors and rugged Cambrian mountains. Both wild and beautiful, the Teifi winds a 122km course over white waterfalls and through lush water meadows, flowing westwards to Cardigan Bay.

The scenic river valley forms a natural boundary between the Ceredigion plateau (north) and the Carmarthenshire plateau (south). The Teifi is lauded as the Queen of game fishing rivers and it is hardly surprising that its vast quantities of salmon, trout and sewin (sea trout) attract anglers from far and wide. But not all tourists trek to the Teifi for the sake of the fish. The spectacular Cenarth Falls is just one of many memorable beauty spots.

An abundance of wildlife, from marine mammals to rare plants, adds to the Teifi's dramatic appeal. Dolphins and seals swim in the Teifi estuary, rare red kites fly over Cors Carn and leaping salmon delight visitors at Cenarth Falls.

Yr Afon Teifi

Lleolir tarddiad yr Afon Teifi mewn man sydd bron yng nghanol Cymru yn ddaearyddol, wedi’i hamgylchynu gan rostiroedd grugog a mynyddoedd garw Cambria. Afon wyllt ond hardd yw’r Teifi, ac mae’n llifo am 122km dros raeadrau gwyn a thrwy weirgloddiau ffrwythlon i gyfeiriad y gorllewin a Bae Ceredigion.

Mae dyffryn hardd yr afon yn ffurfio ffin naturiol rhwng llwyfandir Ceredigion (i’r gogledd) a llwyfandir Sir Gaerfyrddin (i’r de). Mae’r Teifi yn enwog fel Brenhines yr afonydd pysgota ac nid oes syndod bod ei niferoedd enfawr o eogiaid, brithyllod a siwin yn denu pysgotwyr o bell ac agos. Ond nid pawb sy’n ymweld â’r Teifi oherwydd ei physgod. Mae Rhaeadrau Cenarth yn un o nifer o lefydd hardd yn yr ardal sy’n denu ymwelwyr.

Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt, o famaliaid y môr i blanhigion prin, yn ychwanegu at atyniad y Teifi. Mae dolffiniaid a morloi i’w gweld yn nofio yn aber yr afon, barcutiaid yn hedfan uwchben Cors Carn ac eogiaid yn llamu yn Rhaeadrau Cenarth.